This is a chance to influence sector wide change and ensure that touring careers in Wales are more sustainable for everyone. Photo: Shutterstock.
Touring is a vital part of Wales’ performing arts ecology, yet it is increasingly complex to navigate — especially for artists and arts workers with caring responsibilities.
Parents & Carers in Performing Arts (PiPA) are inviting performing arts organisations and freelancers across Wales to take part in one of PiPA’s Roundtables, exploring how touring can become more viable, inclusive, and accessible for parents and carers working in the performing arts.
Roundtable outcomes
PiPA is holding two in-person sessions, at Theatr Cymru and also Theatre Clwyd (as part of the Creu Cymru conference), bringing together a mix of voices from across the sector. The discussions will:
- Identify key challenges and barriers to touring as a parent and / or carer.
- Discuss practical strategies that organisations and freelancers can adopt.
- Co develop ideas and strategies to take forward.
The findings will feed directly into a free online toolkit designed to support more inclusive touring practices in Wales.
Your voice is key
Your lived experience and professional insights are essential. By joining a PiPA Roundtable, you’ll be contributing directly to a resource designed to support fairer, more flexible, and more inclusive touring practices across Wales.
This is a chance to influence sector wide change and ensure that touring careers in Wales are more sustainable for everyone.
To join the free in-person session, please sign up below:
- 6 May 2026, 11.00 am – 1:00 pm: Yr Egin, Theatr Cymru, Carmarthen SA31 3EQ
- 2 June 2026, 10.15 am – 11:15 pm: Creu Cymru Conference, Theatr Clwyd CH7 1YA
Further information
Find out more about the project here. Please note:
- Welsh live translation will be provided.
- BSL interpretation available on request.
- Children are welcome to join (at the responsibility of their parents and carers)
- A small subsidy is available for freelancers with caring responsibilities wanting to join. Please contact us PiPA directly to discuss this.
Learn more about PiPA or email programmes@pipacampaign.com.
Mae Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio (PiPA) yn cynnal dau gyfarfod ford gron wyneb yn wyneb yng Nghymru ym mis Mai a mis Mehefin, gan wahodd gweithwyr llawrydd a sefydliadau i rannu eu profiadau o gydbwyso teithio â chyfrifoldebau gofalu a helpu i ddatblygu atebion ymarferol ar gyfer sector mwy cynhwysol.
Mae teithio yn rhan hanfodol o ecoleg celfyddydau perfformio Cymru, ac eto mae’n fwyfwy cymhleth llywio drwy’r cyfan – yn enwedig i artistiaid a gweithwyr celfyddydau sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio (PiPA) yn gwahodd sefydliadau celfyddydau perfformio a gweithwyr llawrydd ledled Cymru i gymryd rhan yn un o gyfarfodydd Ford Gron PiPA, gan archwilio sut gall teithio ddod yn fwy hyfyw, cynhwysol a hygyrch i rieni a gofalwyr sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio.
Canlyniadau bwrdd crwn
Mae PiPA yn cynnal dwy sesiwn wyneb yn wyneb, yn Theatr Cymru a Theatr Clwyd (fel rhan o gynhadledd Creu Cymru), gan ddod â chymysgedd o leisiau o bob rhan o’r sector at ei gilydd. Bydd y trafodaethau’n ymdrin â’r canlynol:
- Nodi’r prif heriau a rhwystrau i deithio fel rhiant a / neu ofalwr.
- Trafod strategaethau ymarferol y gall sefydliadau a gweithwyr llawrydd eu mabwysiadu.
- Cyd-ddatblygu syniadau a strategaethau i fwrw ymlaen â nhw.
Bydd y canfyddiadau’n bwydo’n uniongyrchol i becyn cymorth ar-lein am ddim sydd wedi’i ddylunio i gefnogi arferion teithio mwy cynhwysol yng Nghymru.
Mae eich llais chi’n allweddol
Mae eich profiad bywyd a’ch dealltwriaeth broffesiynol yn hanfodol. Drwy ymuno â Bwrdd Crwn PiPA, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at adnodd sydd wedi’i ddylunio i gefnogi arferion teithio tecach, mwy hyblyg a mwy cynhwysol ledled Cymru.
Dyma gyfle i ddylanwadu ar newid ar draws y sector a sicrhau bod gyrfaoedd teithiol yng Nghymru yn fwy cynaliadwy i bawb.
I ymuno â’r sesiwn wyneb yn wyneb am ddim, cofrestrwch isod:
- 6 Mai 2026, 11.00 am – 1:00 pm: Yr Egin, Theatr Cymru, Caerfyrddin SA31 3EE
- 2 Mehefin 2026, 10.15 am – 11:15 pm: Cynhadledd Creu Cymru, Theatr Clwyd CH7 1YA
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma. Sylwch:
- Bydd cyfieithu Cymraeg byw yn cael ei ddarparu.
- Mae gwasanaeth dehongli BSL ar gael ar gais.
- Mae croeso i blant ymuno (ar gyfrifoldeb eu rhieni a’u gofalwyr)
- Mae cymhorthdal bach ar gael i weithwyr llawrydd sydd â chyfrifoldebau gofalu sy’n dymuno ymuno. Cysylltwch â PiPA yn uniongyrchol i drafod hyn.
Rhagor o wybodaeth am PiPA neu anfonwch neges e-bost i programmes@pipacampaign.com.