skip to main content

MU Calls on Political Parties and Candidates to Back Musicians’ Manifesto for Wales Ahead of Senedd Election

Add your voice to the call for action to improve cultural provision and musicians’ careers across Wales.

Published: 17 February 2026 | 3:23 PM
Exterior white sign on slate saying
Photo/Llun: Shutterstock:

The MU has published a manifesto for the 2026 Senedd election with clear, practical suggestions to improve cultural provision and the strength of the creative industries across Wales, with benefits for members, organisations, and the public.

The Musicians’ Union manifesto calls on political parties in Wales to deliver:

  • Growth and innovation
  • Music for all
  • Local and international success
  • A sustainable culture sector

These asks aren’t just about protecting and strengthening musicians’ careers, they’re also about tackling issues across music industry and creative industries in Wales to increase the benefits of music and culture for communities, health and wellbeing, and the economy across Wales.

We’re calling on all political parties in Wales to include these asks in their manifestos, and on all candidates to support the MU manifesto, which has been sent to all current MSs.

Take action now!

Help put pressure on political parties and candidates to support our manifesto and its suggestions to support musicians and culture across Wales.

  • Share our Senedd election manifesto with people you know on WhatsApp, Facebook, and on BlueSky – including your local political parties.
  • Write to your MS using our template letter below – you can find their contact details on the Senedd website
  • Ask Senedd candidates questions about their support for music, culture, and the creative industries based on our suggestions below

Together, we can ensure that the voices of musicians are heard loud and clear in the run-up to the 2026 elections.

Template letter to MSs

Dear [MS name goes here],

I am a constituent living at [your address goes here],

I’m sure you’d agree that music is a vital part of cultural life in Wales, whether that’s live gigs, lessons for children in schools, or community engagement in care homes.

Music and the broader creative industries are also important for the Welsh economy: the music industry generated £8 billion for the UK economy in 2024, and in the same year the revenue for Wales from music tourism alone was £384 million.

However, musicians like me still face challenges such as reduced spending on culture, insecure and poorly paid work, the effects of AI and streaming, and additional barriers to touring.

The Musicians’ Union (MU) believes that more can be done together to tackle these issues and increase the benefits of music and culture for communities, health and wellbeing, and the economy across Wales.

They have written to every current MS about their Musicians’ Manifesto for Wales: theMU.org/ManifestoSenedd2026. The Musicians’ Union is calling on all political parties to include these asks in their manifestos.

Please engage with the MU’s suggestions and lobby for their inclusion in your party manifesto for the 2026 Senedd election.

Yours sincerely,

[Your name]

Questions for candidates

Ask your candidates to support music in Wales. Every election sees candidates and supporters knocking doors, running phone banks, and holding community events – all to get your vote. This is your opportunity to ask them about their commitment to music and musicians in Wales.

Not sure what to ask? Here are some questions to get the conversation started, and secure clear commitments to support musicians in Wales:

  • Will you publicly commit to supporting the Musicians’ Manifesto for Wales ahead of the 2026 Senedd elections?
  • Will you publicly commit to working with Musicians’ Union and other creative unions to support culture and the creative industries if you are elected?
  • Will you get in touch with the Musicians’ Union to find out more about their manifesto and work for music and musicians across Wales?

Undeb y Cerddorion yn galw ar bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i gefnogi Maniffesto Cerddorion Cymru cyn etholiad y Senedd

Ychwanegwch eich llais at yr alwad am weithredu er mwyn gwella’r ddarpariaeth ddiwylliannol a gyrfaoedd cerddorion ledled Cymru.

Mae Undeb y Cerddorion wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 gydag awgrymiadau clir, ymarferol i wella’r ddarpariaeth ddiwylliannol a chryfder y diwydiannau creadigol ledled Cymru, er budd aelodau, sefydliadau a’r cyhoedd.

Mae maniffesto Undeb y Cerddorion yn galw ar bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i sicrhau:

  • Twf ac arloesi
  • Cerddoriaeth i bawb
  • Llwyddiant lleol a rhyngwladol
  • Sector diwylliant cynaliadwy

Nid diogelu a chryfhau gyrfaoedd cerddorion yn unig yw diben y gofynion hyn; maent yn ymwneud hefyd â mynd i’r afael â materion ar draws y diwydiant cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth a diwylliant yn dod â mwy o fudd i gymunedau, iechyd a lles, a’r economi yng Nghymru.

Galwn ar bob plaid wleidyddol yng Nghymru i gynnwys y gofynion hyn yn eu maniffestos, ac ar bob ymgeisydd i gefnogi maniffesto Undeb y Cerddorion, sydd wedi’i anfon at bob Aelod presennol o’r Senedd.

Gweithredwch nawr!

Helpwch roi pwysau ar bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i gefnogi ein maniffesto a’i awgrymiadau ar gyfer cefnogi cerddorion a diwylliant ar draws Cymru.

  • Rhannwch ein maniffesto etholiad gyda phobl rydych chi’n eu hadnabod ar WhatsApp, Facebook, ac ar BlueSky – gan gynnwys eich pleidiau gwleidyddol lleol.
  • Ysgrifennwch at eich AoS gan ddefnyddio ein llythyr templed isod – gallwch gael eu manylion cyswllt ar wefan y Senedd
  • Holwch ymgeiswyr y Senedd am eu cefnogaeth i gerddoriaeth, diwylliant a’r diwydiannau creadigol gan ddefnyddio ein hawgrymiadau isod

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod lleisiau cerddorion i’w clywed yn gryf ac yn eglur yn y cyfnod cyn etholiadau 2026.

Templed llythyr at AoS

Annwyl [enw’r AoS],

Rwy’n etholwr sy’n byw yn [rhowch eich cyfeiriad yma],

Rwy’n siŵr y cytunech chi fod cerddoriaeth yn rhan hanfodol o fywyd diwylliannol Cymru, boed hynny’n gigs byw, gwersi i blant mewn ysgolion, neu ymgysylltu cymunedol mewn cartrefi gofal. Mae cerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol ehangach yn bwysig i economi Cymru hefyd: cynhyrchodd y diwydiant cerddoriaeth £8 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig yn 2024, ac yn yr un flwyddyn, daeth twristiaeth cerddoriaeth yn unig â £384 miliwn o refeniw i Gymru.

Serch hynny, mae cerddorion fel fi yn dal i wynebu heriau fel llai o wariant ar ddiwylliant, gwaith ansicr a chyflog gwael, effeithiau AI a ffrydio, a rhwystrau ychwanegol ar deithio.

Mae Undeb y Cerddorion yn credu y gallwn ni wneud mwy gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn a chynyddu manteision cerddoriaeth a diwylliant i gymunedau, iechyd a lles, ac i economi Cymru.

Mae’r Undeb wedi ysgrifennu at bob Aelod cyfredol o’r Senedd am ein Maniffesto Cerddorion Cymru: theMU.org/ManifestoSenedd2026. Mae Undeb y Cerddorion yn galw ar bob plaid wleidyddol i gynnwys y gofynion hyn yn eu maniffestos.

Os gwelwch yn dda, ystyriwch awgrymiadau’r Undeb ac anogwch eich plaid i’w cynnwys yn eich maniffesto ar gyfer etholiad Senedd 2026.

Yn gywir

[Eich enw]

Cwestiynau i ymgeiswyr

Gofynnwch i’ch ymgeiswyr gefnogi cerddoriaeth yng Nghymru.Ym mhob etholiad bydd ymgeiswyr a chefnogwyr yn curo ar ddrysau, yn rhedeg banciau ffôn, ac yn cynnal digwyddiadau cymunedol – i gyd er mwyn cael eich pleidlais.Dyma’ch cyfle i’w holi nhw am eu hymrwymiad i gerddoriaeth a cherddorion yng Nghymru.

Ddim yn siŵr beth i’w ofyn? Dyma rai cwestiynau i gychwyn y sgwrs, a sicrhau ymrwymiadau clir i gefnogi cerddorion yng Nghymru:

  • A wnewch chi ymrwymo’n gyhoeddus i gefnogi Maniffesto Cerddorion Cymru cyn etholiadau’r Senedd yn 2026?
  • A wnewch chi ymrwymo’n gyhoeddus i weithio gydag Undeb y Cerddorion ac undebau creadigol eraill i gefnogi diwylliant a’r diwydiannau creadigol os cewch eich ethol?
  • A wnewch chi gysylltu ag Undeb y Cerddorion i gael gwybod mwy am eu maniffesto a’u gwaith dros gerddoriaeth a cherddorion ledled Cymru?

Your Union in Wales. Your Voice in Music.

From Cardiff to Caernarfon, the Wales & South West England Regional Office is here to support musicians across the nation—offering expert advice, local events, and strong advocacy rooted in the needs of Wales’ vibrant music community.

Continue reading