skip to main content

Welsh National Opera Orchestra Musicians Vote to Accept New Agreement

Musicians in the Welsh National Opera (WNO) orchestra vote to accept a new agreement, following a year of tough negotiations and months of high-profile campaigning to protect Wales’ largest arts organisation.

Published: 22 April 2025 | 12:41 PM Updated: 22 April 2025 | 5:23 PM
A Welsh National Opera orchestra member holding a campaign placard at a demo in Cardiff.
The agreement follows a year of negotiations to stave off the prospect of part-time employment. Photo credit: Adam Gasson/PA Media Assignments.

Musicians in the Welsh National Opera (WNO) orchestra have voted to accept a new deal from management by an overwhelming majority of 97%.

It follows a year of negotiations to stave off the prospect of part-time employment and reach an agreement that benefits both the orchestra and the company.

Musicians’ Union (MU) General Secretary Naomi Pohl said: “WNO’s new leadership in Adele Thomas and Sarah Crabtree is more collaborative and positive than the MU have ever known it. The MU is reassured that they are fighting to retain a full-time performing company in spite of the current funding issues.

“However, we know we are not out of the woods yet. This is an incredibly difficult time for the arts in the UK and the opera sector has been especially hard hit, with WNO disproportionately affected and facing significant ongoing financial challenges.

“We must continue to stand with WNO to campaign for the future integrity of a full-time, full-strength company.”

Over 14,000 people backed members’ campaign to protect WNO

MU members have been campaigning to protect WNO since the spring of 2024. They set out to keep WNO as a full-time company and stop the proposed 15% pay cut to the orchestra. Their campaign, which included sustained industrial action from September 2024 to March 2025, has achieved both goals.

The campaign has been supported by over 14,000 petition signatures and leading figures in the arts, including Welsh bass-baritone Sir Bryn Terfel and not-for-profit actor Michael Sheen.

It has also received political support from the Members of the Senedd and Members of Parliament and the Trades Union Congress (TUC) in England and Wales.

“We are pleased that the move to a part-time orchestra is now off the table”

MU and player committee member Llinos Owen said: “This result gives some much needed assurances for the orchestral players currently in post, and we are pleased that the move to a part-time orchestra is now off the table.

“Whilst this marks the end of our industrial action, we are acutely aware that there have been job losses for many of our friends and colleagues across the company, and that the chorus are currently facing compulsory redundancies.

“The orchestra has lost 10 posts since 2020, and WNO has sustained particularly hard hitting cuts to its public funding, reducing the number of performances we are able to give to our audiences.

“Our new contract enables us as an orchestra to be more firmly embedded in the communities in which we work, and as we put this period of industrial action behind us, we can now work together with our new passionate and innovative General Directors to campaign positively for more sustainable funding for WNO, the opera sector and the Arts in general, so that we can continue to have secure employment, performing world class work across Wales, England, and internationally.”

The new agreement offers some stability for the orchestra

MU National Organiser for Orchestras Jo Laverty said: “This has been an incredibly challenging year for the whole company, and it continues to be, despite this outcome.

“My sincere and heartfelt thanks must go to the orchestra committee members and our Union steward who have spent countless hours in negotiations representing the orchestra’s views and probing the details of the offer with strength and dignity.

“We are aware that there are challenges still to come but what we have achieved here is some stability for the orchestra over the coming year, a better agreement and a constructive working relationship with WNO management which we have faith will continue.”

The Union shares its solidarity with Equity members in the chorus whose campaign to protect their jobs is ongoing.

Protecting the future of WNO and the land of song

Members had also been campaigning for Arts Council of Wales and Arts Council England to agree a sustainable funding package to secure WNO’s future.

Their activism ignited a debate that led to the Welsh Government providing an additional £1.5m in funding to support arts organisations in Wales.

MU members are keen to continue their work on this with WNO’s new co-General Director/CEOs Adele Thomas and Sarah Crabtree. Earlier this month, the orchestra joined Thomas and Crabtree onstage as part of a powerful appeal for arts funding to secure WNO’s future.

Welsh National Opera is Wales’ largest arts organisation and one of only two full time professional orchestras in Wales. WNO is also one of only two opera companies producing full-size performances outside of London and South East England.

It’s essential WNO retains its full-time performing forces

While the new agreement protects members’ jobs, the orchestra will lose circa ten vacant seats.

The Union believes a sustainable funding package must account for a full-time, full-size orchestra for Wales alongside its touring future in England and Wales.

MU Regional Organiser for Wales and South West England Andy Warnock said: “I’m really pleased that we’ve been able to secure an agreement with WNO after a year of campaigning by the orchestra, with fantastic support from audience members, the public, and politicians.

“However, we know that WNO is still in a fragile position overall and want to express our solidarity with Equity members in the chorus.

“Major national companies like WNO need secure funding to support their employed performing forces, which are a crucial part of the cultural ecosystem. WNO’s joint funding from ACE and ACW has been positive for both nations across several decades, and it’s a major problem that a unilateral change to that arrangement in England is still having a devastating effect on culture in Wales.

“It’s essential that WNO retains its full-time performing forces, which we know is the aim of the company’s new leadership, so we need politicians and both Arts Councils in England and Wales to join us for discussions on how that can be achieved.”

*****

Cerddorion cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru’n pleidleisio o blaid derbyn cytundeb newydd

Cerddorion cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn pleidleisio o blaid derbyn cytundeb newydd, yn dilyn blwyddyn o negodi anodd a misoedd o ymgyrchu proffil uchel i ddiogelu sefydliad celfyddydol mwyaf Cymru.

Mae 97% o gerddorion cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) wedi pleidleisio o blaid derbyn cynnig newydd gan eu rheolwyr, sy’n fwyafrif llethol.

Mae’n dilyn blwyddyn o negodi i osgoi’r posibilrwydd o gyflogaeth ran-amser, a chyrraedd cytundeb sydd o fudd i’r gerddorfa ac i’r cwmni.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Cerddorion Naomi Pohl: “Arweinyddiaeth newydd WNO, sef Adele Thomas a Sarah Crabtree, yw’r mwyaf cydweithredol a chadarnhaol a welodd Undeb y Cerddorion erioed. Mae’r Undeb wedi’i sicrhau eu bod yn ymladd i gadw cwmni perfformio llawn-amser, er gwaethaf yr anawsterau ariannol presennol. 

“Fodd bynnag, gwyddom nad ydym eto allan o drafferthion. Mae hwn yn gyfnod hynod anodd i’r celfyddydau yn y DU, a chafodd y sector opera yn arbennig ergyd drom. Effeithiwyd ar WNO yn anghymesur ac mae’n wynebu heriau ariannol sylweddol yn barhaus.

“Rhaid inni barhau i sefyll ochr yn ochr â WNO i ymgyrchu dros undod cwmni cryfder llawn, llawn-amser yn y dyfodol.”

Cefnogwyd ymgyrch yr aelodau i ddiogelu WNO gan fwy na 14,000 o bobl

Mae aelodau Undeb y Cerddorion wedi bod yn ymgyrchu dros ddiogelu WNO ers gwanwyn 2024. Eu nodau oedd cadw WNO fel cwmni llawn-amser, ac atal y cwmni rhag torri cyflogau’r gerddorfa 15%. Mae eu hymgyrch, a oedd yn cynnwys gweithredu diwydiannol estynedig o fis Medi 2024 i fis Mawrth, wedi cyflawni’r ddau nod.

Cafodd yr ymgyrch ei gefnogi gan ddeiseb a lofnodwyd gan fwy na 14,000 o bobl a phobl amlwg ym maes y celfyddydau, gan gynnwys y bariton-bas o Gymru Syr Bryn Terfel a’r actor nid-er-elw Michael Sheen.

Cafodd cefnogaeth wleidyddol hefyd gan Aelodau’r Senedd ac Aelodau Seneddol, ynghyd â Chyngres yr Undebau Llafur (TUC) yng Nghymru a Lloegr.

"Mae ein contract newydd yn ein caniatáu ni fel cerddorfa i fod â gwreiddiau dyfnach yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt"

Dywedodd Llinos Owen, aelod o Undeb y Cerddorion a phwyllgor y chwaraewyr: "Mae’r canlyniad hwn yn rhoi’r sicrwydd roedd mawr ei angen ar y chwaraewyr a gyflogir gan y gerddorfa ar hyn o bryd. Rydym yn falch nad yw’r bwriad i gael cerddorfa ran-amser yn cael ei ystyried mwyach.

"Er bod hyn yn nodi diwedd ein gweithredu diwydiannol, rydym yn ymwybodol iawn bod llawer o’n ffrindiau a’n cydweithwyr ar draws y cwmni wedi colli eu swyddi, a bod  aelodau’r corws yn wynebu dileu eu swyddi’n orfodol ar hyn o bryd.

"Collodd y gerddorfa 10 o swyddi ers 2020, a chafwyd toriadau ergydiol i’r arian cyhoeddus a gafodd WNO, gan leihau nifer y perfformiadau rydym yn gallu eu rhoi i’n cynulleidfaoedd. 

"Mae ein contract newydd yn ein caniatáu ni fel cerddorfa i fod â gwreiddiau dyfnach yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt. Wrth inni roi’r cyfnod hwn o weithredu diwydiannol tu ôl inni, gallwn gydweithio â’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol angerddol ac arloesol newydd i ymgyrchu’n gadarnhaol dros sicrhau mwy o arian cynaliadwy i WNO, y sector opera a’r celfyddydau’n gyffredinol, er mwyn inni barhau i gael swyddi diogel, a pherfformio gwaith o safon fyd-eang yng Nghymru, yn Lloegr ac yn rhyngwladol."

Dywedodd Jo Laverty, Trefnydd Cenedlaethol dros Gerddorfeydd, Undeb y Cerddorion: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol dros ben i’r cwmni cyfan. Er y canlyniad hwn, mae’r her yn parhau. 

“Rhaid imi ddiolch yn ddiffuant o waelod fy nghalon i aelodau pwyllgor y gerddorfa a stiward ein hundeb a dreuliodd oriau maith yn negodi, yn cynrychioli barn y gerddorfa ac yn profi manylion y cynnig gyda chryfder ac urddas.

“Rydym yn ymwybodol o’r heriau sydd eto i ddod, ond rydym wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd i’r gerddorfa yn ystod y flwyddyn nesaf, ynghyd â chytundeb gwell a pherthynas gweithio adeiladol gyda rheolwyr WNO rydym yn ffyddiog y bydd yn parhau.”

Mae’r undeb yn rhannu ei uniondeb ag aelodau Equity yn y corws, y mae eu hymgyrch i ddiogelu eu swyddi yn parhau.

Diogelu dyfodol WNO a gwlad y gân

Mae’r aelodau hefyd wedi bod yn ymgyrchu i Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England gytuno ar becyn arian cynaliadwy er mwyn diogelu dyfodol WNO.

Ysgogodd eu gweithredu drafodaeth a arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.

Mae aelodau Undeb y Cerddorion yn awyddus i barhau â’u gwaith gyda chyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Swyddogion Gweithredu newydd WNO, Adele Thomas a Sarah Crabtree. Yn gynharach y mis hwn, ymunodd y gerddorfa â Thomas a Crabtree ar lwyfan fel rhan o apêl bwerus am arian i'r celfyddydau er mwyn sicrhau dyfodol WNO

Opera Cenedlaethol Cymru yw sefydliad celfyddydol mwyaf Cymru, ac mae’n un o’r unig ddwy gerddorfa broffesiynol yng Nghymru. Hefyd, WNO yw un o’r unig ddau gwmni opera sy’n cynhyrchu perfformiadau opera maint llawn tu allan i Lundain a de ddwyrain Lloegr.

Mae’n hanfodol i WNO gadw ei lu perfformio llawn-amser

Er bod y cytundeb newydd yn diogelu swyddi aelodau, bydd y gerddorfa’n colli oddeutu deg sedd wag. Mae’r undeb yn credu y bydd rhaid i becyn arian cynaliadwy dalu am gerddorfa maint llawn, llawn-amser i Gymru, ochr yn ochr â’i dyfodol yn teithio yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Andy Warnock, Trefnydd Rhanbarthol Cymru a De Orllewin Lloegr Undeb y Cerddorion: “Dw i’n blesd iawn ein bod ni wedi gallu sicrhau cytundeb gyda WNO ar ôl blwyddyn o ymgyrchu gan y gerddorfa, gyda chefnogaeth wych gan aelodau’r gynulleidfa, y cyhoedd, a gwleidyddion.  

“Fodd bynnag, gwyddom fod sefyllfa WNO yn parhau’n fregus yn gyffredinol, a hoffem fynegi ein hundod ag aelodau Equity yn y corws.  

"Mae angen ar gwmnïau mawr fel WNO gyllid diogel i gefnogi eu lluoedd perfformio cyflogedig, sy’n rhan hanfodol o’r ecosystem ddiwylliannol. Mae cyd-ariannu WNO gan CCC a ACE wedi bod yn gadarnhaol i’r ddwy wlad ers degawdau, ac mae’n broblem fawr bod newid unochrog i’r trefniant hwnnw yn Lloegr yn parhau i gael effaith andwyol ar ddiwylliant yng Nghymru.

“Mae’n hanfodol i WNO gadw eu lluoedd perfformio llawn-amser, a dyma yw bwriad arweinyddiaeth newydd y cwmni. Felly mae angen arnom i Arts Council England a Chyngor Celfyddydau Cymru ymuno â ni i drafod sut y gellir cyflawni hynny.”

Be a changemaker and get your voice heard

Make a change in your local area or within your music sector, or to be part of the governing body of the union. Get involved with the Musicians' Union's work.

Members can get involved and shape the future of music through the MU's democratic structures.

There are many ways to get involved 

and much more.

Shape MU policy

Be a changemaker and get your voice heard

Continue reading