*****
Annwyl [ychwanegwch enw eich Aelod Seneddol yma],
Rydw i'n etholwr sy'n byw yn [ychwanegwch eich cyfeiriad llawn a'ch cod post yma].
Ysgrifennaf atoch i dynnu eich sylw at doriadau cyllid sy’n peryglu dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a’i gerddorfa, a gofynnaf i chi gefnogi ymgyrch y gerddorfa i warchod WNO.
[Defnyddiwch y gofod yma i rannu effaith y toriadau i WNO arnoch chi fel aelod o'r gynulleidfa a/neu gerddor. Ydych chi wedi mynychu perfformiad gan WNO yn ddiweddar? Yn lle oedd hyn, a pha effaith gafodd arnoch chi? A fyddech chi'n dal i allu gweld opera pe na bai WNO yn teithio i'ch tref neu ddinas? Os ydych yn gerddor, ydych chi wedi gweithio gyda'r cwmni yn y gorffennol neu a hoffech chi weithio gyda nhw yn y dyfodol? Sut dych chi’n teimlo am erydiad presennol cerddoriaeth a diwylliant Cymru?]
Mae WNO yn un o ddim ond dau gwmni opera sy’n cynhyrchu perfformiadau opera llawn y tu hwnt i Lundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma hefyd sefydliad celfyddydol mwyaf Cymru ac mae'n un o ddim ond dwy gerddorfa broffesiynol llawn amser yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae toriadau cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr yn peryglu dyfodol WNO. Mae rheolwyr WNO wedi cael eu gorfodi i gyflawni newidiadau mawr i’r cwmni ac mae’r gerddorfa a’r corws yn parhau i fod o dan fygythiad.
Rydym wedi cael peth llwyddiant yn gwrthwynebu cynigion i ostwng oriau'r gerddorfa o amser llawn i ran amser, ond gallai cynigion newydd olygu cerddorfa hyd yn oed yn llai yn ogystal â rhewi cyflogau ein haelodau sy’n gerddorion medrus iawn, ond sydd eisoes yn derbyn cyflogau cymharol wael. Bydd y toriadau hefyd yn golygu llai o deithio yng Nghymru a Lloegr gallai adael trefi a dinasoedd fel Llandudno a Bryste (wedi toriadau blaenorol i berfformiadau yn Lerpwl) heb y ddarpariaeth opera o safon uchel y maent yn ei haeddu.
Mae WNO angen cynllun ariannu hir dymor i adfer y gerddorfa i gynnwys cyflenwad llawn o gerddorion gyda statws llawn amser, i lwyfannu rhaglen deithiol lawn, ac i sicrhau cadernid ariannol y cwmni i’w hamddiffyn am genedlaethau i ddod.
Rhaid i ni anelu yn uwch, a brwydro i amddiffyn y cerddorion sy’n gyfrifol am greu cwmni sy'n sefydliad artistig rhagorol ac sydd hefyd yn cyflawni gwaith pwysig ym meysydd addysg cerddoriaeth, iechyd a lles.
Mae dros 13,000 o bobl wedi arwyddo deiseb o blaid yr ymgyrch.
Fel fy Aelod o'r Senedd, a wnewch chi annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ffynhonnell ariannu gynaliadwy fydd yn cadw cerddorfa'r WNO yn llawn amser a bydd hefyd yn diogelu teithio?
A wnewch chi hefyd rannu neges o blaid yr ymgyrch i amddiffyn WNO yn y Senedd neu gydag Undeb y Cerddorion yn uniongyrchol?
Bydd cerddorfa WNO yn cymryd camau i dynnu sylw at y toriadau arfaethedig yn ystod perfformiadau yn y dyfodol a byddai aelodau'n hapus iawn i gwrdd â chi i drafod y sefyllfa a'u pryderon yn fwy manwl.
Am ragor o wybodaeth am y sefyllfa a sut y gallwch chi helpu, cysylltwch â phennaeth Rhanbarth Cymru a De Orllewin Lloegr yr MU Andy Warnock ar wswe@theMU.org.
Yr eiddoch yn gywir,
[Ychwanegwch eich enw a'ch cyfeiriad llawn gyda chod post eto yma]